swwitch2share.com
  • English
  • Hafan
  • Amdanom ni
  • Croeso
  • Mewngofnodi
  • Cwestiynau
  • Cyfrifianell Costau*
  • Diogelwch
  • Cysylltiadau
  • Cysylltwch â ni
  • SWWITCH

"Fel rheolwr yr wyf yn teimlo ei bod yn hanfodol o bwysig i arwain gyda esiampl.......................... fel rhannwr car yr wyf wedi haneri fy nghostau tanwydd".

Adrian, Carmarthenshire.

New Users

Cliciwch yma i gofrestru a dechrau rhannu ceir.

AMODAU A THELERAU DEFNYDD

Cytundeb Aelodaeth Liftshare

PWYSIG - DARLLENWCH YN OFALUS. Mae gwasanaethau Liftshare (y “Gwasanaeth”) yn cael eu darparu gan Lifthsare.com Cyf. (“LIFTSHARE.COM”) i chi. (“Chi”) o dan amodau a thelerau'r Cytundeb Aelodaeth hwn (y “Cytundeb”). Mae'r Cytundeb hwn yn cynnwys Polisi Preifatrwydd LIFTSHARE.COM, sydd ar gael yma ac sy'n cael ei ymgorffori wedi hyn drwy gyfeirio ac yn rheoli Eich defnydd chi o wefannau LIFTSHARE.COM yn ogystal â'r Gwasanaeth. DRWY HYGYRCHU'R GWASANAETH NEU GWBLHAU'R BROSES GOFRESTRU, RYDYCH YN MYNEGI AC YN SICRHAU BOD:

•  HAWL GENNYCH I LOFNODI A RHWYMO'R CYTUNDEBWR A'CH BOD YN CYTUNO I UFUDDHAU I HOLL AMODAU A THELERAU'R CYTUNDEB GAN GYNNWYS YR YMWADIADAU A CHYFYNGIADAU ATEBOLRWYDD A NODWYD ISOD. OS NAD OES HAWL GENNYCH LOFNODI A RHWYMO I'R CYTUNDEBWR, NEU OS YDYCH FEL ARALL YN ANGHYTUNO AG AMODAU A THELERAU'R CYTUNDEB HWN, PEIDIWCH Â HYGYRCHU NA DEFNYDDIO'R GWASANAETH HWN.

•  DISGRIFIAD O'R GWASANAETH

Mae LIFTSHARE.COM yn darparu gwasanaeth cynnal siwrneiau cyfatebol sy'n galluogi defnyddwyr y Gwasanaeth (y cyfeirir hefyd atynt fel aelodau) i ddod o hyd i gwmni teithio a threfnu teithiau a rennir ar y We Fyd-eang lle gall aelodau eraill ymweld â'r safle a'i defnyddio i ychwanegu a chwilio am siwrneiau cyfatebol.

•  DEFNYDDIO'R GWASANAETH

Mae'r holl ddefnydd o'r Gwasanaeth, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i bostio siwrneiau, chwilio am bobl gyfatebol ac ychwanegu gwasanaeth at wefan arall, yn cael eu rheoli gan y Cytundeb hwn.

A. EICH CYFRIF

Mae HOLL gyfrifon yr AELODAU yn cael eu rheoli gan ac yn amodol ar y rheolau canlynol:

•  Rhaid i'r holl aelodau sy'n cwblhau'r broses gofrestru ddarparu gwybodaeth gyfredol, gyflawn a chywir fel y gofynnir amdani gan y broses gofrestru. Byddwch yn dewis rhif adnabod defnyddiwr a byddwn yn rhoi cyfrinair i chi. Mae gennym yr hawl i wrthod darparu cyfrif i chi yn ôl ein disgresiwn. Rhaid i'r aelodau hynny sy'n chwilio am gwmni teithio yn ogystal â'r rheiny sy'n dymuno creu eu grwp eu hunain gofrestru. Heb ystyried p'un a ydych yn cofrestru ai peidio, rhaid i chi gytuno i amodau'r Cytundeb hwn ac rydych yn gyfrifol am bostio eich siwrneiau eich hunain.

•  Mae'r defnydd o'ch Cyfrif yn gyfyngedig i Chi yn unig. Ni all eich cyfrif gael ei drosglwyddo na'i rannu gydag unrhyw un arall, dros dro na'n barhaol.

•  Chi sy'n gyfrifol am yr holl ddefnydd o'ch Cyfrif chi ac am gyfrinachedd Eich Cyfrinair. Chi sy'n gyfrifol am unrhyw un a'r holl ddatganiadau a wnaed a'r gweithgareddau sy'n digwydd drwy Eich Cyfrif. Rydych wedi cytuno i'n hysbysu ni'n syth am unrhyw ddefnydd heb ganiatâd o'ch Cyfrif. I ddiogelu eich preifatrwydd, bydd LIFTSHARE.COM yn gwahardd mynediad neu'n newid mynediad i'ch Cyfrif yn syth wedi i chi ein hysbysu bod eich cyfrinair wedi cael ei golli, ei ddwyn neu dan fygythiad arall.

•  I ddiddymu Eich Cyfrif, rydych yn cytuno i ddileu eich hunan o'r gronfa ddata ar y dudalen ‘ Manylion Personol '. Yn achos terfyniad, mae'n ofyniad arnoch chi i beidio ag ymyrryd â hawliau unrhyw berson neu endid o ran unrhyw ddeunyddiau y gallech fod wedi'u derbyn neu eu lawrlwytho drwy LIFTSHARE.COM.

•  Chi sy'n gyfrifol am yr holl gostau ffôn neu fynediad i'r we sy'n ymwneud â LIFTSHARE.COM.

B. SIWRNEIAU A GRWPIAU CYFATEBOL

•  Crëwyd y Gwasanaeth LIFTSHARE.COM i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau a safbwyntiau. Fel unrhyw gymuned, serch hynny, rhaid i gyfranogwyr a gweinyddwyr cynnal grwpiau ymddwyn mewn ffordd briodol. Ni all y Gwasanaeth gael ei ddefnyddio i bostio na throsglwyddo unrhyw ddeunyddiau anghyfreithlon, niweidiol, bygythiol, sarhaus, aflonyddol, difenwol neu annerbyniol o unrhyw fath gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i, unrhyw ddeunyddiau sy'n annog ymddygiad a fyddai'n niweidio diddordebau busnes LIFTSHARE.COM, a fyddai'n golygu trosedd, ecsbloetio plant, neu amharu ar hawliau pobl eraill neu dorri unrhyw ddeddf leol, wladol, genedlaethol neu ryngwladol berthnasol. Cedwir yr hawl gan LIFTSHARE.COM i ddileu unrhyw grwp neu gyfranogwr, yn ei farn ef yn unig, sy'n torri'r canllawiau hyn.

•  Gall aelodau greu a/neu danysgrifio i grwpiau cyhoeddus ar y Rhwydwaith LIFTSHARE.COM, sy'n cynnwys yr holl grwpiau cyhoeddus sy'n cael eu cynnal a'u gwasanaethu gan weinyddwyr LIFTSHARE.COM. Rhaid i bob aelod sy'n creu grwp cyhoeddus fod yn aelod cofrestredig o LIFTSHARE.COM a nhw fydd Gweinyddydd awtomatig y Grwp.

•  Gall Aelodau ofyn am greu a/neu danysgrifio i grwpiau preifat ar y RHWYDWAITH LIFTSHARE.COM. Rhaid i bob aelod sy'n gwneud cais i greu grwp preifat benodi rheolwr, sy'n aelod cofrestredig o LIFTSHARE.COM y cyfeirir ato fel “Gweinyddydd y Grwp”. Bydd pob cais ar gyfer creu grwp preifat yn cael ei drafod ar sail unigol. Mae grwpiau preifat yn cyfyngu ar fynediad i aelodau drwy feini prawf arbennig – gall y rhain fod yn benodol i leoliad, busnes, rhwydwaith a galwedigaeth ond heb eu cyfyngu i'r rheiny. Efallai bydd tâl am greu grwpiau preifat.

•  Diddymiad – mae Gweinyddydd y Grwp yn cytuno i hysbysu LIFTSHARE.COM am benderfyniad i beidio â pharhau â grwp, a chedwir yr hawl gan LIFTSHARE.COM i barhau â'r grwp a dewis gweinyddydd grwp newydd yn ogystal â'r hawl i roi terfyn ar unrhyw grwpiau ar unrhyw adeg petaent yn cael eu camddefnyddio neu eu gadael.

•  Nid yw LIFTSHARE.COM a'i gysylltiadau dan unrhyw oblygiad i fonitro nac adolygu trafodaethau, sgyrsiau, postio, trosglwyddiadau a grwpiau.

•  Nid yw LIFTSHARE.COM a'i gysylltiadau yn rheoli'r wybodaeth sydd ar gael mewn ystafelloedd sgwrsio. Mae unrhyw farn, cyngor, datganiadau, gwasanaethau, cynigion neu wybodaeth arall neu gynnwys a gyflwynir neu a ledaenir mewn unrhyw ystafell sgwrsio yn eiddo i'r awduron priodol sy'n unigol atebol am eu cynnwys. Cedwir yr hawl gan LIFTSHARE.COM a'i gysylltiadau, yn ôl eu disgresiwn hwy yn unig, i newid neu ddileu unrhyw ddeunyddiau o ystafelloedd sgwrsio.

•  Ymhellach, cedwir yr hawl gan LIFTSHARE.COM ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm neu heb reswm, i roi terfyn, gwrthod, addasu neu atal y Gwasanaeth gyda neu heb rybudd i Chi. Ni fydd LIFTSHARE.COM yn atebol i Chi nac i unrhyw drydydd person os bydd LIFTSHARE.COM yn ymarfer ei hawl i addasu neu atal y Gwasanaeth.

C. RHEOLAU YMDDYGIAD AR-LEIN

Rydych yn cytuno i'r amodau a'r telerau canlynol:

•  Fe'ch gwaherddir rhag postio, cyhoeddi, dosbarthu, llwytho i fyny, lawrlwytho, lledaenu, trosglwyddo neu gysylltu â Gwefannau eraill sy'n cynnwys deunydd sydd yn:

•  ddeunydd anghyfreithlon, difenwol, twyllodrus, sarhaus, bygythiol, enllibus, aflonyddgar, cignoeth rywiol, rhagfarnllyd, anweddus;

•  bradychu hawliau preifatrwydd, cyhoeddusrwydd, perchenogol neu hawliau eraill unrhyw berson neu endid.

•  cyflawni neu'n hyrwyddo trosedd, neu fel arall yn torri unrhyw gyfraith leol, gwladol, cenedlaethol neu ryngwladol.

•  cynnwys ffeiliau a lygrwyd, feirysau, ceffylau Trojan, mwydon, bomiau amser neu unrhyw nodweddion niweidiol eraill sy'n llygru neu'n dinistrio.

•  cynnwys cystadlaethau, cynlluniau pyramid, llythyron cadwyn, post sgrwntsh, sbamio neu fflamio.

•  hysbysebu, hyrwyddo, marchnata, cynnig archebion am neu gynnig prynu, gwerthu, gosod neu drwyddedu cynnyrch, nwyddau a gwasanaethau. Gwaherddir defnyddio LIFTSHARE.COM ar gyfer hysbysebu neu hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth masnachol heb ganiatâd ysgrifenedig penodol LIFTSHARE.COM.

•  Fe'ch gwaherddir rhag llwytho i fyny neu atgynhyrchu unrhyw wybodaeth sy'n cael ei diogelu gan hawlfraint heb sicrhau caniatâd perchennog yr hawlfraint. Dim ond ffeiliau o eiddo cyhoeddus, a ffeiliau y mae'r awdur wedi rhoi ei ganiatâd i chi eu copïo a'u hailddosbarthu ar-lein neu fel arall, all gael eu lanlwytho i LIFTSHARE.COM, gan gynnwys unrhyw ffeiliau meddalwedd neu lyfrgelloedd.

•  Fe'ch gwaherddir rhag cywain, achredu, twrio, copïo neu fel arall gasglu gwybodaeth am eraill, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i enwau, cyfeiriadau e-bost, cyfrineiriau, gwybodaeth ddefnyddio heb eu caniatâd.

•  Fe'ch gwaherddir rhag dilyn neu aflonyddu ar eraill, Fe'ch gwaherddir ymhellach rhag creu hunaniaeth defnyddiwr er mwyn creu hunaniaeth ffug at y diben o gamarwain eraill am eich Hunaniaeth neu i ddynwared person arall.

•  Ni chewch geisio mynediad heb ganiatâd, nag ymyrryd â, addasu na hacio'r gwasanaeth.

•  Gall gwybodaeth a deunyddiau rydych Chi yn dod o hyd iddynt ar LIFTSHARE.COM fod yn eiddo i LIFTSHARE.COM neu Ddarparydd Gwybodaeth, a gallant fod wedi'u diogelu gan hawlfraint neu gallant gynnwys nod masnachu a ddiogelwyd. Ni chewch gopïo, ailddosbarthu nac ecsbloetio deunyddiau o'r fath yn fasnachol heb ganiatâd ysgrifenedig penodol perchennog/ perchenogion gwybodaeth neu ddeunyddiau o'r fath.

•  Ni chewch dorri unrhyw ddeddf na rheoliad perthnasol unrhyw awdurdod perthnasol.

CH. POLISÏAU AR GYFER AELODAU DAN 13 OED

•  Ar gyfer y defnyddwyr hynny dan 13 oed, ni chewch Chi ddefnyddio'r Gwasanaeth hwn.

•  Os ydych dan 18 oed, rhaid i Chi gael caniatâd rhiant i ddefnyddio'r Gwasanaeth hwn.

III. CYNRYCHIOLIADAU, GWARANTIADAU A CHYDNABYDDIAETH AELODAU

•  Rydych yn gwarantu nad yw'r holl wybodaeth rydych Chi yn ei chyflwyno i'w chyhoeddi neu ei phostio ar LIFTSHARE.COM yn torri unrhyw hawlfraint, nod masnachu, patent, cyfraith statudol, gyffredin na hawliau perchenogol eraill nac yn cynnwys unrhyw beth anweddus neu enllibus. Rydych yn rhoi hawl anghyfyngedig, terfynol i LIFTSHARE.COM gopïo, arddangos, is-drwyddedu, trosglwyddo a chreu gweithiau deilliadol i'r wybodaeth neu'r deunyddiau rydych wedi'u cyhoeddi neu eu postio ar, neu eu dosbarthu drwy'r Gwasanaeth. Cedwir yr hawl gan LIFTSHARE.COM, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun yn unig, ond nid yw o dan unrhyw rwymedigaeth, i wrthod postio, dileu neu olygu gwybodaeth yr ydych Chi yn ei chyflwyno neu yn ei gosod ar LIFTSHARE.COM, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i, hysbysfyrddau electronig, cronfeydd data a llyfrgelloedd meddalwedd. Rydych Chi yn cytuno na fyddwch Chi yn dal, nac yn ceisio dal LIFTSHARE.COM yn atebol am golli data neu gamddefnydd neu ymyrryd ag unrhyw hawl eiddo deallusol (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i unrhyw hawlfraint neu hawl foesol) yr ydych Chi yn hawlio perchenogaeth arni.

•  Rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad yw LIFTSHARE.COM na'i ddarparwyr gwasanaeth trydydd person yn ardystio cynnwys unrhyw aelod ac nid yw'n gyfrifol nac yn atebol am unrhyw gynnwys, er y gallai fod yn anghyfreithlon, yn erlidgar, yn enllibus, yn tarfu ar breifatrwydd yn sarhaus, yn fygythiol, yn niweidiol neu fel arall yn ddi-chwaeth, neu ei fod yn torri ar neu gall dorri ar eiddo deallusol neu hawliau rhywun arall. Rydych yn cydnabod nad yw LIFTSHARE.COM a'i ddarparwyr gwasanaeth trydydd person yn gwirio cynnwys ymlaen llaw, ond bydd gan LIFTSHARE.COM a'r rheiny a ddynodir ganddo yr hawl (ond nid y rhwymedigaeth) yn ôl eu disgresiwn i wrthod, newid, dileu neu symud unrhyw gynnwys sydd ar gael yn gyhoeddus drwy'r Gwasanaeth. Nid yw LIFTSHARE.COM yn rheoli'r cynnwys sy'n cael ei bostio drwy'r Gwasanaeth ac felly nid yw'n gallu gwarantu cywirdeb, gonestrwydd nac ansawdd cynnwys o'r fath. Rydych yn deall drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, efallai y byddwch Chi yn agored i gynnwys sy'n sarhaus, yn anweddus neu'n annymunol. Ni fydd LIFTSHARE.COM o dan unrhyw amgylchiadau'n atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw gynnwys, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i, am unrhyw wallau neu bethau a hepgorwyd yn y cynnwys, neu am unrhyw golled neu niwed o unrhyw fath a gafwyd o ganlyniad i ddefnyddio unrhyw gynnwys a bostiwyd, a e-bostiwyd neu a drosglwyddwyd fel arall drwy'r Gwasanaeth.

•  Gall unrhyw gysylltiadau sy'n cael eu cynnwys o fewn y Gwasanaeth ganiatáu i chi adael gwefan LIFTSHARE.COM. Rydych yn cydnabod nad yw'r safleoedd cysylltiedig hyn dan reolaeth LIFTSHARE.COM ac ni fydd LIFTSHARE.COM yn gyfrifol am gynnwys unrhyw safleoedd cysylltiedig nac unrhyw gyswllt sy'n cael ei gynnwys mewn safle cysylltiedig. Bydd yr holl safleoedd felly yn amodol ar bolisïau a gweithdrefnau perchennog y safle dan sylw. Nid yw LIFTSHARE.COM yn gyfrifol nac yn atebol am wegastio, neu unrhyw ddull arall o drosglwyddiad a dderbyniwyd o unrhyw safle cysylltiedig.

CH. Os byddwch yn archebu nwyddau a/neu wasanaethau oddi wrth rywun heblaw am LIFTSHARE.COM, drwy unrhyw wasanaeth masnachol sy'n hygyrch drwy LIFTSHARE/COM, mae'r holl amodau gwerthiant gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i amodau prynu, amodau talu, gwarantiadau, cynnal a chyflwyno rhyngoch Chi a gwerthwr y nwyddau neu'r gwasanaethau. Chi yn unig sy'n gyfrifol am fodloni unrhyw gytundeb/e-fasnach neu unrhyw oblygiadau eraill y byddwch Chi'n eu derbyn wrth ddefnyddio'r Gwasanaeth. Nid yw LIFTSHARE.COM yn rhoi unrhyw warrant na chynrychiolaeth o gwbl o ran unrhyw nwyddau neu wasanaethau a ddarperir gan werthwr y nwyddau neu'r gwasanaethau ac ni fydd yn atebol am gostau neu niwed a geir, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r cynnyrch neu'r gwasanaethau neu o weithredoedd neu ddiffyg gweithredu'r Gwerthwr.

•  Rydych yn cydnabod bod gan LIFTSHARE.COM yr hawl i archifo neu ddileu unrhyw un o'ch siwrneiau Chi ar wasanaeth Liftshare sy'n hyn na 6 mis.

DD. Rydych yn cydnabod nad yw LIFTSHARE.COM yn cynrychioli nac yn gwarantu na fydd ymyriad a gwallau ar y Gwasanaeth ac y bydd diffygion yn cael eu cywiro.

•  Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y bydd LIFTSHARE.COM yn cadw pob teitl, hawlfraint a hawliau perchenogol eraill yn ei feddalwedd a phob agwedd ar y Gwasanaeth. Ni fyddwch yn caffael unrhyw hawliau, penodol neu awgrymedig, yn y Gwasanaeth, heblaw am y rheiny a nodwyd yn y Cytundeb hwn.

IV. POLISI PREIFATRWYDD

Gall LIFTSHARE.COM gasglu a datgelu data yn unol â Pholisi Preifatrwydd LIFTSHARE.COM a welir yn y Polisi Preifatrwydd . Rydych yn caniatáu unrhyw ddefnydd neu ddatgeliad o'ch hunaniaeth bersonol Chi a gwybodaeth bersonol arall yn unol â'r Polisi Preifatrwydd. Oherwydd yr amgylchedd cyfreithiol a rheoliadol presennol, ni all LIFTSHARE.COM sicrhau na fydd eich gwybodaeth adnabod neu'ch cyfathrebiadau preifat Chi yn cael eu datgelu i drydydd person. Er enghraifft, (a heb gyfyngu ar y rhagdybiedig) efallai bydd yn rhaid i LIFTSHARE.COM ddatgelu gwybodaeth i'r llywodraeth neu drydydd person dan rai amgylchiadau, neu gall trydydd person atal neu hygyrchu trosglwyddiadau neu gyfathrebiadau personol yn anghyfreithlon. Ymhellach, gall LIFTSHARE.COM (ac felly gan hynny rydych Chi'n rhoi caniatâd i LIFTSHARE.COM) ddatgelu Data Cofrestru neu unrhyw wybodaeth amdanoch Chi i swyddogion gorfodi'r ddeddf neu swyddogion y llywodraeth fel y mae LIFTSHARE.COM, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun yn unig, yn barnu ei bod hi'n angenrheidiol neu'n briodol. Felly, ni all LIFTSHARE addo, ac ni ddylech Chi ddisgwyl, y bydd gwybodaeth adnabod bersonol neu gyfathrebiadau personol bob amser yn aros yn breifat. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar bolisi preifatrwydd cyfredol LIFTSHARE.COM yn y Polisi Preifatrwydd .

V. DIDDYMU

Gall LIFTSHARE.COM ddiddymu eich cyfrif Chi os bydd yn credu, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun yn unig, eich bod wedi torri unrhyw un o'r Rheolau Ymddygiad Ar-lein. Gall LIFTSHARE.COM hefyd ddiddymu eich aelodaeth Chi a'ch hawl i ddefnyddio'r Gwasanaeth yn syth os (a)ydych wedi torri'r Cytundeb hwn, (b) nad yw LIFTSHARE.COM yn gallu gwirio neu ddilysu unrhyw wybodaeth rydych wedi'i darparu i LIFTSHARE.COM, (c) yw gwybodaeth o'r fath yn anghywir, (ch) bydd LIFTSHARE.COM yn penderfynu, yn ôl ei ddisgresiwn, eich bod wedi gadael eich cyfrif neu (d) bydd LIFTSHARE.COM yn penderfynu, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun yn unig, peidio â pharhau i gynnig y gwasanaeth. Ni fydd LIFTSHARE.COM yn atebol i Chi na thrydydd person am roi terfyn ar y Gwasanaeth. Gallwch Chi derfynu'r Gwasanaeth gyda neu heb achos ar unrhyw adeg. Os byddwch yn gwrthwynebu unrhyw un o amodau a thelerau'r Cytundeb hwn neu unrhyw addasiadau dilynol i hyn, neu os byddwch yn anfodlon ar y Gwasanaeth mewn unrhyw ffordd, eich unig ymateb yw mynd ati ar unwaith i: (a) stopio defnyddio'r gwasanaeth; (b) canslo eich cyfrif Chi fel a nodwyd yn Adran II; a (c) hysbysu LIFTSHARE.COM o'ch diddymiad. Ar ôl diddymu'r Gwasanaeth, mae eich hawl Chi i ddefnyddio'r Gwasanaeth yn dod i ben ar unwaith.

VI. DIM CYNRYCHIOLAETH NA GWARANTIADAU

RYDYCH YN DEFNYDDIO'R GWASANAETH YN LLWYR AR EICH PERWYL EICH HUN. MAE'R GWASANAETH LIFTSHARE.COM YN CAEL EI DDARPARU AR SAIL “FEL Y MAE, AC FEL MAE AR GAEL”. NI RODDIR GWARANTAU, PENODOL NEU AWGRYMEDIG, GAN GYNNWYS OND NID YN GYFYNGEDIG I FARCHNADWYEDD, PEIDIO TRESMASU, NEU ADDASRWYDD AT DDIBEN PENODOL O RAN LIFTSHARE.COM NEU UNRHYW WYBODAETH NEU FEDDALWEDD SY'N RHAN OHONO. NID YW LIFTSHARE.COM YN RHOI UNRHYW WARANT Y BYDD Y GWASANAETHAU HYN A/NEU UNRHYW GRAFFEG NEU GYNNWYS ARALL YR YDYCH YN EI LAWRLWYTHO O'R GWASANAETH YN DIWALLU EICH GOFYNION, NAC Y BYDD Y GWASANAETH HEB YMYRIAD, YN AMSEROL, YN DDIOGEL NAC HEB WALLAU; AC NID YW LIFTSHARE.COM CHWAITH, EI DRWYDDEDWYR NA'I GYFLENWYR YN RHOI UNRHYW WARANT O RAN Y CANLYNIADAU A GEIR WRTH DDEFNYDDIO'R GWASANAETH NEU O RAN CYWIRDEB NA DIBYNADWYEDD UNRHYW WYBODAETH A GEIR DRWY'R GWASANAETH NAC Y BYDD DIFFYGION YN Y GWASANAETH YN CAEL EU CYWIRO. NID YW POB AWDURDODAETH YN CANIATÁU EITHRIO RHAI GWARANTAU, FELLY EFALLAI NA FYDD RHAI O'R EITHRIADAU UCHOD YN BERTHNASOL I CHI.

VII. ATEBOLRWYDD CYFYNGEDIG

NI FYDD LIFTSHARE.COM, EI DRWYDDEDWYR NEU'I GYFLENWYR AR UNRHYW GYFRIF YN ATEBOL I CHI NEU UNRHYW DRYDYDD PERSON AM UNRHYW NIWED UNIONGYRCHOL, ANUNIONGYRCHOL, DAMWEINIOL, ARBENNIG NEU GANLYNIADOL, A GEIR O DDEFNYDD NEU ANALLU I DDEFNYDDIO'R GWASANAETH A/NEU UNRHYW GRAFFEG NEU UNRHYW GYNNWYS ARALL, GAN GYNNWYS OND NID YN GYFYNGEDIG I, NIWED AM GOLLI ELW, PA FFORDD BYNNAG Y'I ACHOSWYD AR UNRHYW DDAMCANIAETH ATEBOLRWYDD (GAN GYNNWYS ESGEULUSTOD) HYD YN OED OS BYDD LIFTSHARE.COM WEDI CAEL EI GYNGHORI AM Y POSIBILRWYDD O DDIFROD O'R FATH. YMHELLACH, NI FYDD LIFTSHARE.COM YN ATEBOL I CHI NAC UNRHYW DRYDYDD PERSON ARALL AM UNRHYW GYNNWYS TRYDYDD PERSON A LWYTHWYD I FYNY NEU A LAWRLWYTHWYD O'R GWASANAETH. RYDYCH YN CYDNABOD AC YN CYTUNO'N BENODOL NA FYDD LIFTSHARE.COM YN ATEBOL AM YMDDYGIAD, CYNGOR NEU DDATGANIAD AELODAU ERAILL, HYSBYSEBWYR NEU DRYDYDD PERSON. NID YW POB AWDURDODAETH YN CANIATÁU CYFYNGIAD NEU EITHRIAD ATEBOLRWYDD AM DDIFROD DAMWEINIOL NEU GANLYNIADOL FELLY EFALLAI NA FYDD RHAI O'R CYFYNGIADAU UCHOD YN BERTHNASOL I CHI. [NI FYDDD ATEBOLRWYDD LLAWN LIFTSHARE.COM AM YR HOLL NIWED, COLLEDION AC ACHOSION GWEITHREDU AR UNRHYW GYFRIF YN FWY NA'R SWM ARIANNOL CYFANSYMIOL MEWN PUNNOEDD A DALWYD DAN Y CYTUNDEB. NID YW RHAI GWLEDYDD YN CANIATÁU CYFYNGIADAU NAC EITHRIADAU ATEBOLRWYDD AM DDIFROD DAMWEINIOL NEU GANLYNIADOL; O GANLYNIAD, EFALLAI NA FYDD Y CYFYNGIAD NEU'R EITHRIAD UCHOD YN BERTHNASOL I CHI.]

VIII. DIGOLLEDIAD

Rydych yn cytuno i ddigolledu a chadw LIFTSHARE.COM, ei rieni, ei gynorthwywyr, ei swyddogion a'i weithwyr, yn diogel rhag unrhyw hawliadau a chostau, gan gynnwys ffioedd twrnai rhesymol sy'n ymwneud â (i) Eich defnydd Chi o'r Gwasanaeth, gan gynnwys unrhyw gynnwys a ddarparwyd drwy eich cyfrif Chi, (ii) unrhyw dor Cytundeb, gan gynnwys unrhyw ymddygiad sarhaus neu anghyfreithlon ar eich rhan Chi neu ar ran y rhai sy'n ddibynnol arnoch Chi; neu (iii) dorri unrhyw warant neu gynrychiolaeth.

IX. ADDASU CYTUNDEB

Gall LIFTSHARE.COM addasu'r Cytundeb hwn ar unrhyw adeg drwy (i) bostio dogfen Amodau Gwasanaeth ddiwygiedig LIFTSHARE.COM ar Wefan Fyd-eang LIFTSHARE.COM, a/neu (ii) anfon gwybodaeth o ran y Cytundeb newydd i'r cyfeiriad e-bost rydych Chi wedi'i roi i LIFTSHARE.COM. Rydych Chi yn gyfrifol am adolygu Gwefan Fyd-eang LIFTSHARE.COM yn rheolaidd er mwyn cael rhybudd amserol am newidiadau o'r fath. Bydd unrhyw ddefnydd parhaus o'r Meddalwedd neu'r Gwasanaeth gennych Chi ar ôl i'r amodau diwygedig gael eu postio neu wedi'i wybodaeth am newid o'r fath gael ei hanfon atoch, yn gweithredu fel eich Caniatâd a'ch cytundeb Chi i amodau diwygiedig o'r fath. Fel arall, ni all y Cytundeb hwn gael ei addasu ond yn ysgrifenedig drwy lofnod y ddau barti.

X. CYTUNDEB CYFAN

AMODAU CYFFREDINOL. Mae pob agwedd ar y Cytundeb yn cael ei reoli gan Gyfraith Lloegr a bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth. Os bernir bod unrhyw un o ddarpariaethau'r Cytundeb hwn yn annilys neu'n anorfodadwy, bydd darpariaeth o'r fath yn cael ei dileu a bydd gweddill y darpariaethau'n cael eu gorfodi. Ni fydd methiant LIFTSHARE.COM i weithredu o ran torri amodau gennych Chi yn ildio hawl LIFTSHARE.COM i weithredu o ran torri amodau dilynol neu debyg. Ni chewch neilltuo na throsglwyddo'r Cytundeb hwn nac unrhyw hawliau trwy hyn, ac mae unrhyw ymgais i'r gwrthwyneb yn ddi-rym. Bydd y Cytundeb hwn yn dod i rym er lles ac yn rhwymo olynydd ac aseiniaid pob person. Ni fydd LIFTSHARE.COM yn atebol am unrhyw oedi neu fethiant i berfformio yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn sgîl unrhyw achosion y tu hwnt i reolaeth resymol LIFTSHARE.COM. Bydd unrhyw rybudd sydd ei angen neu y caniateir ei roi i Chi dan y Cytundeb hwn yn cael ei drosglwyddo drwy bost electronig i gyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych Chi wrth gofrestru. Mae'r Cytundeb hwn yn ffurfio dealltwriaeth gyflawn ac unigryw a chytundeb rhwng y partïon sy'n ymwneud â'r cynnwys wedi hyn ac yn disodli'r holl ddealltwriaethau, cynigion, cytundebau a thrafodaethau blaenorol rhwng y partïon, p'un ai'n ysgrifenedig neu ar lafar.
swwitch2share is part of the national liftshare car sharing network

* Mae pob cyswllt a farcir gyda seren yn agor mewn tudalen newydd.
Amodau A Thelerau Defnydd | Ymwadiad | Materion Feirws