swwitch2share.com
  • English
  • Hafan
  • Amdanom ni
  • Croeso
  • Mewngofnodi
  • Cwestiynau
  • Cyfrifianell Costau*
  • Diogelwch
  • Cysylltiadau
  • Cysylltwch â ni
  • SWWITCH

"Fel rheolwr yr wyf yn teimlo ei bod yn hanfodol o bwysig i arwain gyda esiampl.......................... fel rhannwr car yr wyf wedi haneri fy nghostau tanwydd".

Adrian, Carmarthenshire.

New Users

Cliciwch yma i gofrestru a dechrau rhannu ceir.

Rhannu Car

Beth yw Rhannu Car?

Rhannu car yw pan fydd dau neu fwy o bobl yn rhannu car ac yn teithio gyda'i gilydd. Mae hyn yn galluogi pobl i elwa o gyfleuster y car, tra'n lleihau'r problemau sy'n gysylltiedig â thagfeydd a llygredd.

Pryd galla i rannu car?

Gallwch rannu car ar gyfer unrhyw daith – teithio i'r gwaith, gwneud y siopa wythnosol, mynd â'r plant i'r ysgol, mynd i wylio'r gêm ar y penwythnos, teithio i ŵyl, digwyddiad neu sioe, mynd i'r brifysgol neu oddi yno, ymweld â ffrindiau neu fynd i'r maes awyr.

Beth yw manteision Rhannu Car?

  • Arbed arian – gall teithio gydag eraill ostwng eich costau teithio hyd at £1000 y flwyddyn.
  • Lleihau nifer y ceir ar y ffordd – gan olygu bod llai o dagfeydd, llai o lygredd a llai o broblemau parcio.
  • Darparu ateb go iawn i'r problemau cludiant mewn ardaloedd gwledig. Mae'n rhoi mwy o opsiynau teithio i weithwyr a chyflogwyr.
  • Lleihau'r angen am gar preifat.

Am ragor o wybodaeth, rydym wedi ateb nifer o'r cwestiynau a ofynnir yn aml am y gwasanaeth.

Sut gallaf ddechrau Rhannu Car?

Cymerwch ychydig o funudau i gofrestru. Yna, ychwanegwch unrhyw siwrneiau rheolaidd neu rai unigryw yr ydych yn eu trefnu a gallwch weld drosoch chi'ch hun pa mor hawdd y gallwch gysylltu â theithwyr eraill sy'n teithio i'r un cyfeiriad â chi…

swwitch2share is part of the national liftshare car sharing network

* Mae pob cyswllt a farcir gyda seren yn agor mewn tudalen newydd.
Amodau A Thelerau Defnydd | Ymwadiad | Materion Feirws