Defnyddwyr newydd
Aelodau
Amdanom ni
Mae SWWITCH yn gonsortiwm o bedwar awdurdod lleol yn Ne-orllewin Cymru - Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.
Anogir gweithio consortiwm rhwng awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac fe'i ariennir ganddynt hefyd er mwyn gwella'r ffordd y mae cludiant yn cael ei gynllunio a'i reoli ar draws rhanbarthau Cymru.
Amcan rhanbarthol eang SWWITCH yw gwella mynediad a thrwy wneud hyn, gwella cyfleoedd ar gyfer pobl y rhanbarth o ran cyflogaeth, iechyd ac addysg well.
- Cefnogi cynhwysiad, cyfleoedd a chyfartaledd cymdeithasol i bawb
- Cefnogi cynnydd economaidd ac amcanion busnes
- Hyrwyddo cludiant cynaliadwy ac integredig
Mae SWWITCH wedi sefydlu'r wefan rhannu ceir hon i helpu pobl y rhanbarth ddod o hyd i bartneriaid rhannu ceir.
Anogir rhannu ceir gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ac fe'i gefnogir gan sawl cyflogwr mawr yn y rhanbarth fel rhan o'u Cynlluniau Teithio.
