English

swwitch2share

Defnyddwyr newydd

Aelodau

Anfonwch gyfrinair i mi

Rhannu Car

Car Sharers

Beth yw Rhannu Car?

Rhannu car yw pan fydd dau neu fwy o bobl yn rhannu car ac yn teithio gyda'i gilydd. Mae hyn yn galluogi pobl i elwa o gyfleuster y car, tra'n lleihau'r problemau sy'n gysylltiedig â thagfeydd a llygredd.

Pryd galla i rannu car?

Gallwch rannu car ar gyfer unrhyw daith – teithio i'r gwaith, gwneud y siopa wythnosol, mynd â'r plant i'r ysgol, mynd i wylio'r gêm ar y penwythnos, teithio i wyl, digwyddiad neu sioe, mynd i'r brifysgol neu oddi yno, ymweld â ffrindiau neu fynd i'r maes awyr.

Beth yw manteision Rhannu Car?

  • Arbed arian - gall teithio gydag eraill ostwng eich costau teithio hyd at £1000 y flwyddyn.
  • Lleihau nifer y ceir ar y ffordd - gan olygu bod llai o dagfeydd, llai o lygredd a llai o broblemau parcio.
  • Darparu ateb go iawn i'r problemau cludiant mewn ardaloedd gwledig. Mae'n rhoi mwy o opsiynau teithio i weithwyr a chyflogwyr.
  • Lleihau'r angen am gar preifat.

Am ragor o wybodaeth, rydym wedi ateb nifer o'r cwestiynau a ofynnir yn aml am y gwasanaeth.

Sut gallaf ddechrau Rhannu Car?

Cymerwch ychydig o funudau i gofrestru. Yna, ychwanegwch unrhyw siwrneiau rheolaidd neu rai unigryw yr ydych yn eu trefnu a gallwch weld drosoch chi'ch hun pa mor hawdd y gallwch gysylltu â theithwyr eraill sy'n teithio i'r un cyfeiriad â chi...